Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mercher, 25 Medi 2013 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:30 - 11:09 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
David Rees (Cadeirydd) Leighton Andrews Rebecca Evans William Graham Elin Jones Darren Millar Lynne Neagle Gwyn R Price Lindsay Whittle Kirsty Williams |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Sarah Rochira, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Llinos Madeley (Clerc) Sarah Sargent (Dirprwy Glerc) Stephen Boyce (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod.
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Ni chafwyd ymddiheuriadau.
2 Gwaith craffu ar Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
2.1 Ymatebodd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru i gwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor.
3 Papurau i’w nodi
3.1 Nododd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfod blaenorol.
3.1 Lythyr gan y Pwyllgor Deisebau: Hawliau Cyfartal i Bobl Ifanc Tiwb-borthedig
3a.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr a gafwyd gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau; bydd y Cadeirydd yn ymateb, gan nodi'r ohebiaeth.
3.2 Llythyr gan y Pwyllgor Deisebau: Gwasanaethau Ambiwlans ym Mynwy
3b.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr a gafwyd gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau; bydd y Cadeirydd yn ymateb, gan nodi'r ohebiaeth.
3.3 Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Yn dilyn y sesiwn graffu gyffredinol ar y Gweinidog, Gorffennaf 2013
3c.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr a gafwyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
3.4 Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Ymchwiliad i’r achosion o’r frech goch 2013
3d.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr a gafwyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
3d.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol er mwyn gofyn iddo:
· am yr effaith y mae cwtogi'r gyllideb diogelu iechyd ac imiwneiddio o £1.9 miliwn, fel y nodir gan Swyddfa Archwilio Cymru'n yn ei hadroddiad, 'Cyllid Iechyd 2012-13 a Thu Hwnt' [tudalen 16], wedi ei chael; ac
· am ffynhonnell yr arian a ddefnyddiwyd i fynd i'r afael â'r achosion diweddar o'r frech goch, ac a oedd yr arbedion o £1.9 miliwn yn parhau i fodoli ar ddiwedd y flwyddyn.
3.5 Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Ymateb i ymchwiliad y Pwyllgor i'r achosion o'r frech goch 2013
3e.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr a gafwyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
3.6 Blaenraglen Waith
3f.1 Nododd y Pwyllgor y flaenraglen waith ar gyfer tymor yr hydref.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5 Trafod y flaenraglen waith
5.1 Trafododd y Pwyllgor yr opsiynau a'r cynigion ar gyfer ei flaenraglen waith ar gyfer y cyfnod yn dilyn y Nadolig:
6 Mynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru
6.1 Trafododd y Pwyllgor sut y bydd yn cynnal ei ymchwiliad i fynediad at dechnolegau meddygol, a chytunodd y byddai'n ceisio penodi cynghorwr arbenigol. Cytunodd hefyd ar swydd-ddisgrifiad ddrafft ar gyfer y rôl gynghorol hon.
7 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Gofal
7.1 Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol diwygiedig ar gyfer y Bil Gofal.
7.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am eglurhad ynghylch pam yr ymddengys nad yw'r Bil Gofal yn cynnwys gofyniad cyfatebol ar awdurdodau lleol yn yr Alban i ddiwallu anghenion gofal a chymorth oedolion a leolir yno gan awdurdodau lleol Cymru.